

Sut i fynd yno
O Lanfyllin: Ewch tua’r gorllewin ar yr A490, sy’n newid i’r B4391 ychydig i’r gorllewin o Lanfyllin. Dilynwch y ffordd hon i fyny gallt hir (tua dwy filltir) sydd â chyffordd gyda’r B4580 yn ei phen uchaf. Arhoswch ar y brif ffordd am un filltir ac wedyn troi i’r chwith, i ffordd fechan wrth ymyl clwstwr o goed bythwyrdd. (Os dechreuwch fynd i lawr gallt hir ar y brif ffordd rydych wedi mynd heibio’r man troi). Mae’r safle ymhen tua 0.9 milltir ar hyd y ffordd fechan, ar y dde, gyferbyn â bwthyn Hafotty Ganol.
O Lanrhaeadr-ym-mochnant a’r B4396: Dilynwch y B4396 tua’r gorllewin hyd at gyffordd T gyda’r B4391. Trowch i’r chwith tuag at Lanfyllin. Byddwch ymhen ychydig yn mynd i mewn i bentref Pen-y-garnedd. Mae’r brif ffordd yn troi’n dynn i’r dde ac wedyn y chwith. Ar y tro i’r chwith mae hen gapel ar y dde a ffordd fechan yn mynd i fyny’r allt o’ch blaen chi. Dilynwch y ffordd fechan hon am tua ¾ milltir a chymryd y troad cyntaf ar y chwith. Mae’r safle ¾ milltir ar hyd y ffordd fechan hon, ar y chwith, gyferbyn â bwthyn Hafotty Ganol.
O’r Bala: Ewch tua’r gorllewin ar y B4391 a chroesi mynyddoedd y Berwyn (mae’n daith brydferth). Ar ochr ddwyreiniol y mynyddoedd byddwch yn mynd trwy Langynog a Phen-y-bont-fawr. Ychydig ar ôl Pen-y-bont-fawr byddwch yn cyrraedd Pen-y-garnedd. Wedyn dilynwch y cyfarwyddiadau sydd yn union uwchben rhain.
Directions
From Llanfyllin: Head west on the A490 which becomes the B4391 just west of Llanfyllin. Follow this up a long hill (about two miles), near the top of which is a junction with the B4580. Stay on the main road for 1 mile and turn left on a small lane by a cluster of evergreen trees. (If you start going down a long hill on the main road you have missed the turn.) The site is about 0.9 miles along the lane on the right, opposite Hafotty Ganol cottage.
From Llanrhaeadr-Ym-Mochnant and the B4396: Follow the B4396 west to the T-junction with the B4391. Turn left towards Llanfyllin. You will shortly enter the village of Penygarnedd. The main road bends sharply to the right and then the left. At the left bend is an old chapel on the right and a lane going up the hill in front of you. Head up this lane for about ¾ mile and take the first left. The site is ¾ mile along this lane on the left, opposite Hafotty Ganol cottage.
From Bala: Head east on the B4391 and cross over the Berwyn mountains (it is a beautiful drive). On the east side of the mountains you will go through Llangynog and Penybontfawr. Shortly after Penybontfawr you will enter Penygarnedd. Then follow the instructions immediately above.