Ynghylch

Y Dechrau
Fe sefydlwyd Cwmni Buddiannau Cymunedol Fferm Goedwig Gymunedol Dyffryn Tanat ym Medi 2020, ond roedd y syniad o ryw fath o warchodfa natur gymunedol wedi codi nifer o flynyddoedd yn gynharach, ar daith gerdded yng Nghoedwig Delamere adeg y Nadolig. Daeth y syniad yn bosibilrwydd gwirioneddol pan ddaeth 30 erw o dir pori defaid yn yr ucheldir ar werth ym Mhen y Garnedd, Sir Drefaldwyn, yn 2019. Roedd gwerthwr y tir yn hynod o amyneddgar, gan aros i ni godi £120,000 ac yn Chwefror 2021 fe brynwyd y tir o’r diwedd a daeth yn ased cymunedol. Fe wnaethom ni gael cystadleuaeth i ddewis enw priodol i’r tir, un fyddai’n haws i’w ddefnyddio na’r un swyddogol. Yr enillydd oedd Dolydd Gobaith (Meadows of Hope) ac rwyf fi’n teimlo bod hwnnw’n crynhoi’r teimlad tu ôl i’r prosiect.

Ein Gweledigaeth
Mae gan Ddolydd Gobaith nifer o nodau i’w cyflawni. Rydym ni’n gobeithio cynorthwyo i wrthsefyll newid hinsawdd, amddiffyn a gwella bioamrywiaeth leol a’r dreftadaeth naturiol, a chanfod ffyrdd cynaliadwy o gynhyrchu bwyd a chynnyrch eraill o’r tir. Hefyd, efallai mai’r nod bwysicaf yw annog y cymunedau yn yr ardal oddi amgylch i gymryd rhan a chysylltu gyda’r dirwedd brydferth hon a’r byd naturiol rydym ni oll yn rhan ohono.

Beth rydym ni wedi’i wneud hyd yma
Rydym ni wedi cael arian oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n gymorth i ni gyflawni llawer iawn yn y flwyddyn gyntaf. Mae gwaith wedi mynd ymlaen lawer i ffensio’r holl dir sydd i gael ei blannu. Bydd hyn yn diogelu’r coed ifanc a’r gwrychoedd rhag anifeiliaid pori. Mae gennym ni nawr gyd-drefnydd rhan amser ar gyfer gwirfoddolwyr, sy’n trefnu dyddiau gwirfoddoli i blannu, gosod haen ‘mulch’ – a chribinio tociau twrch daear! Rydym ni wedi cynnal gweithdy ar bryfed peillio, i ddechrau hyfforddi gwirfoddolwyr i wneud arolygon o bryfed yn y dyfodol. Mae arbenigwyr o Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn wedi gwneud arolygon llinell sylfaen o flodau gwyllt, cacwn, a ffyngau glaswelltir, er mwyn i ni fedru monitro’r newidiadau sy’n digwydd dros amser gyda’r newid mewn rheolaeth.

Cynlluniau ar gyfer y 6 mis nesaf
Rydym ni’n cynllunio i gael mwy o weithdai hyfforddi – sut i wneud arolygon blodau gwyllt, adnabod ffyngau glaswelltir, defnyddio pladur, helfa chwilod i blant a’r ifanc o galon, plygu gwrych ac adnabod coed yn y gaeaf. Ym mis Tachwedd, byddwn yn dechrau ar blannu 1.5km o wrychoedd a nifer o erwau o goetir cynhenid cymysg. Mae gennym ni arian i greu dau bwll a gwella’r mannau o dir gwlyb ar y safle. Byddwn yn cael gwartheg, merlod geifr, defaid a gwyddau i bori’r glaswelltir, gan ddilyn cynllun rheoli pori ar gyfer cadwraeth. Byddwn yn ceisio cael llawer mwy o bobl i gymryd rhan, o ysgolion, ffermydd, sefydliadau ac unigolion yn lleol, a gobeithio bydd modd denu rhai pobl nad ydynt wedi cymryd rhan o’r blaen mewn prosiectau amgylcheddol cymunedol.

Cynlluniau tymor hir
Ein bwriad i’r tymor hir yw datblygu ffyrdd cynaliadwy o gynhyrchu incwm o’r tir, fel y gall y cwmni buddiannau cymunedol fod yn hunan gynhaliol yn ariannol ar gyfer ei gostau o ddydd i ddydd. Rydym ni’n gobeithio gallu cynnig syniadau i berchnogion tir eraill a ffermwyr yn ucheldir Cymru o ran ffyrdd o arallgyfeirio yn ystod yr adegau newidiol a heriol hyn.

Y bobl sy’n rhan o hyn
Ar hyn o bryd mae gan y cwmni dri chyfarwyddwr, pob un gyda gwahanol gryfderau, ac ymhen amser efallai byddwn ni’n chwilio am fwy o gyfarwyddwyr os byddwn angen sgiliau eraill i redeg y prosiect yn llwyddiannus.


Bridget Neame: Rwyf fi wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol am bron 50 mlynedd (tydi hynny’n gwneud i mi swnio’n hen!) ac mewn addysg amgylcheddol am lawer o’r amser hwnnw. Rwyf yn teimlo’n gryf iawn bod angen i bob un ohonom wneud beth bynnag allwn i gynorthwyo i ateb materion amgylcheddol yr oes hon – newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, llygredd plastig. Er y gall y problemau ymddangos yn heriol iawn, gallwn oll wneud rhywbeth. Y gobaith sydd gennyf fi yw y gall y prosiect hwn ddangos y ffordd, rywfaint bach, tuag at ddyfodol gwell.


Michael Clifton: Rwyf fi wedi gweithio ar brosiectau amgylcheddol wedi’u seilio ar y gymuned am dros 30 mlynedd. Mae llawer o’r gwaith hwnnw wedi golygu ymgysylltu gyda gwirfoddolwyr (yn Shetland) ar nifer fawr o brosiectau yn cynnwys ailgylchu, datblygiad cynaliadwy, gwella’r amgylchedd, rheoli cynefinoedd a chynlluniau lleihau carbon. Rwyf nawr yn gwneud gwaith wedi’i dargedu gydag Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt Swydd Amwythig / Shropshire Wildlife Trust ac yn rheoli prosiectau ar gyfer elusen genedlaethol i geisio cynyddu bioamrywiaeth mewn mynwentydd eglwysi. Rwyf hefyd yn Swyddog Codi Arian iddynt.


Alastair Neame: Rwyf fi’n ymgynghorydd datblygu economaidd ac wedi bod yn was sifil, gyda diddordeb tymor hir mewn materion amgylcheddol. Bydd llawer o fy ngwaith beunyddiol yn golygu cynorthwyo cyrff sy’n ceisio cael arian ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd, ac mae’r un hwn cyn bwysiced ag unrhyw un ohonynt. Mae’r prosiect hwn yn cynnig cymaint o fudd, yn gyfleoedd addysgol yn uniongyrchol i’r gymuned, enillion bioamrywiaeth ac ymateb i her fyd-eang newid hinsawdd, ac rwyf fi’n falch o fod yn rhan ohono.